Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Hydref 2024
Amser:
09.00 -
09.37
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar welliannau i gofnodion eitem 4.1: Amserlen ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru) ar gais y Trefnydd.
Derbyniodd yr aelodau hefyd wahoddiad gan y Trefnydd i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni ddarparu briff ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes yn y dyfodol.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.15pm
Pwyllgor Senedd y Dyfodol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai Pwyllgor Senedd y Dyfodol, os caiff ei sefydlu gan y Senedd ar 16 Hydref, gynnal cyfarfod cychwynnol fore Mercher 23 Hydref.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd, mewn egwyddor, i’r Pwyllgor gael slot cyfarfod parhaol o fewn amserlen y pwyllgorau yn yr un cylchdro â’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Gwnaeth Darren Millar gais i’r Llywodraeth wneud datganiad ysgrifenedig neu lafar ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy cyn y toriad hanner tymor. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 23 Hydref 2024 –
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd glo brig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd dadl ar y ddeiseb P-06-1456: Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru y gofynnwyd amdani’n flaenorol gan y Pwyllgor Deisebau, yn cael ei gohirio nes y bydd gweithrediadau barnwrol cyfredol ar y mater wedi’u cwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais pellach i aelodau’r pwyllgor gael eu hesgusodi hefyd o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 19 Tachwedd, pe bai busnes yn rhedeg yn hwyr y noson honno.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i'r Canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid, yn ymwneud â'r Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor a nododd ei fod yn fodlon â'r diwygiadau hynny. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ar drefniadau ymarferol arfaethedig ar gyfer treialu rhaghysbysiad ar gyfer pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Pwyllgor Busnes ei Raglen Waith Weithdrefnol a'r rhyngweithio rhwng nifer o eitemau yn y rhaglen a chylch gwaith Pwyllgor arfaethedig Senedd y Dyfodol. Mewn perthynas â’r adolygiadau arfaethedig o’r broses graffu ddeddfwriaethol ar gyfer Biliau cyhoeddus a phroses Bil Aelod, nododd y Pwyllgor Busnes y byddai’n parhau i fod yn gyfrifol am y ddau adolygiad, ond y gallai fod angen iddo ystyried unrhyw gynigion a wneir gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol sy’n berthnasol i'r agweddau hynny, ac agweddau eraill, ar ei raglen.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
· yr amserlen arfaethedig ar gyfer ei waith gweithdrefnol; a
· pheidio â dechrau adolygiad llawn o'r broses cydsyniad deddfwriaethol fel rhan o'r rhaglen ar hyn o bryd, ond ystyried y sefyllfa yng ngoleuni profiad wrth ystyried diweddariad pellach i'r rhaglen yn nhymor y Gwanwyn.
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau o sesiynau galw heibio ac ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.